- Home
- Events
- Ceredigion: Lansiad Fferm Laeth Strategol Sychpant – Bridio i wneud pob buwch yn broffidiol
Ceredigion: Lansiad Fferm Laeth Strategol Sychpant – Bridio i wneud pob buwch yn broffidiol
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad Fferm Laeth Strategol newydd AHDB, lle byddwn yn cyflwyno ein Ffermwr Llaeth Strategol newydd, Marcus Ferraro o Geredigion.
Yn ogystal â chyflwyniad i gefndir y fferm, gan gynnwys taith o’i hamgylch, byddwn yn trafod sut i wella buches drwy gynyddu dealltwriaeth o eneteg.
Bydd y rhaglen tair blynedd hon yn canolbwyntio ar wella’r busnes – ond er mwyn gwneud cynnydd, rhaid ichi yn gyntaf wybod ble rydych chi arni ar hyn o bryd. Felly, pa offer sydd ar gael i’ch helpu i fesur a meincnodi perfformiad eich buches?
Gyda chostau mewnbwn yn dynn a llafur yn brin, rhaid i bob buwch ar eich fferm gyfrannu at yr elw sylfaenol. Mae deall pa anifeiliaid sy’n gwneud elw, a pha rai sy’n cael eu cario, yn fwy hanfodol nag erioed.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys
- Taith o amgylch y fferm a chyfle i ddysgu mwy gan y perchnogion am eu busnes a’u ffigurau perfformio gyda’r ymgynghorydd fferm, Anna Bowen
- Sut y gall mynegai bridio helpu buchesi i nodi a chanolbwyntio re u hanifeiliaid mwyaf proffidiol, gyda Phennaeth Geneteg Anifeiliaid AHDB, Marco Winters
- Rôl genomeg a sut y gallu helpu i wneud gwell penderfyniadau bridio
- Gweledigaeth hirdymor y ffermwyr ar gyfer y fferm a’r amcanion dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r rhwydwaith Ffermydd Llaeth Strategol
P’un ai ydych chi eisoes yn tracio data genetig neu ar fin dechrau arni, bydd y cyfarfod hwn yn cynnig offer a syniadau ymarferol, seiliedig ar ymchwil, i’ch helpu i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb eich busnes.
Am fferm Sychpant
Mae fferm Sychpant yng Nghastellnewydd Emlyn, Ceredigion yn berchen i, ac yn cael ei rheoli gan Marcus Ferraro a’i deulu.
Maen nhw’n godro 300 o fuchod ProCROSS mewn parlwr 16/32, ar gymysgedd o 60 hectar o dir sy’n berchen iddyn nhw a 122 hectar o dir rhent.
Mae eu buchod yn cynhyrchu 6,500 litr yr un ar gyfartaledd, gyda 3.65% protein a 4.52% braster menyn.
Topics:
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
