Sir Ddinbych: Canfod buchod gwasod/sy’n gofyn tarw i wella ffrwythlondeb

Wednesday, 09 September 2026

10:30am - 2:30pm

Ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, Parc Glasdir, Sir Ddinbych

LL15 1PB

Book Now


Cyngor ymarferol i’ch helpu i ganfod buchod gwasod/sy’n gofyn tarw, cynyddu cyfraddau beichiogi ac adeiladu strategaeth ffrwythlondeb sydd wedi’i theilwra ar gyfer eich buches.

Mae cael buchod yn gyflo mewn ffordd effeithlon yn un o sbardunwyr mwyaf busnes llaeth proffidiol. Serch bod yna fwy o opsiynau ar gael nag erioed o’r blaen i ganfod buchod gwasod/sy’n gofyn tarw, mae dewis y dull iawn ar gyfer eich buches, y llafur sydd ar gael, ac amcanion eich busnes yn allweddol i sicrhau perfformiad ffrwythlondeb cyson.

Ymunwch ag AHDB a Dave Gilbert o Dairy Insight ar gyfer y gweithdy ymarferol, rhyngweithiol hwn lle byddwn ni’n archwilio egwyddorion canfod buchod gwasod yn effeithiol a sut i ddatblygu strategaeth sy’n gweithio ar eich fferm chi.

Byddwn yn edrych ar y ffordd mae buchod yn dangos eu bod yn gofyn tarw, y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad buchod gwasod, cryfderau gwahanol ddulliau o ganfod buchod gwasod a sut i fonitro ac adolygu perfformiad i gael y cyfraddau beichiogi uchaf.

Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod:

  • Deall y targedau – pam y mae dull effeithiol o ganfod pryd y mae buwch yn gofyn tarw yn hanfodol i sicrhau cyfraddau beichiogi cryf
  • Adnabod arwyddion gofyn tarw – sut y mae buchod gwasod yn dangos hynny a’r ffactorau all ddylanwadu ar eu hymddygiad
  • Dewis yr offer iawn – cymharu arsylwi gweledol, cymhorthion canfod buchod gwasod a thechnoleg monitro gweithgarwch
  • Adeiladu eich strategaeth canfod buchod gwasod – y cyfleusterau, dewis dull sy’n siwtio eich buches, y llafur sydd ar gael a’ch nodau busnes
  • Mesur llwyddiant – monitro dynodyddion ffrwythlondeb allweddol ac addasu eich strategaeth i gynnal perfformiad

Mae’r sesiwn hon yn bennaf ar gyfer ffermwyr llaeth a rheolwyr buchesi sydd am wella ffrwythlondeb y fuches a phroffidioldeb.

Mae cofrestru yn hanfodol a darperir cinio.

Cefndir Dave Gilbert

Mae Dave Gilbert BVetMed MRCVS yn filfeddyg ymgynghorol â thros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda buchesi llaeth y DU. Ar ôl cymhwyso o’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn 2005, mae wedi arbenigo ym maes iechyd a ffrwythlondeb buchesi llaeth, gan gyfuno rôl ymgynghori ymarferol ar ffermydd â rôl addysgu ym Mhrifysgol Harper Adams.

Mae Dave yn gyfarwyddwr Dairy Insight a Horizon Dairy Vets, ac mae’n gweithio gyda ffermwyr ledled y DU i wella ffrwythlondeb, iechyd a phroffidioldeb drwy reolaeth ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’n siaradwr rheolaidd yn nigwyddiadau’r diwydiant ac mae wedi cyfrannu at nifer o brosiectau cyfnewid gwybodaeth AHDB ym maes ffrwythlondeb buchesi llaeth.

Topics:

Sectors:


If you have any questions about this event, please contact us using the details below.

E james.hague@ahdb.org.uk

T 07792 289386


×