Sioe Deithiol Llinell Sylfaen yr Amgylchedd 2026

Ymunwch â ni ar ffermydd ledled Prydain ym mis Mehefin eleni i archwilio canlyniadau cyntaf y Prosiect Peilot Llinell Sylfaen yr Amgylchedd, a beth maen nhw’n ei olygu mewn termau ymarferol, go iawn, ar gyfer yr amgylchedd.

Nod y fenter hon, a gynhelir gan AHDB, gyda chymorth Quality Meat Scotland a Hybu Cig Cymru, yw asesu effaith amgylcheddol amaethyddiaeth, gan ddefnyddio data go iawn i fesur sefyllfa amgylcheddol 178 o ffermydd traws-sector ledled y wlad.

Bydd y gyfres o ddigwyddiadau ar ffermydd yn trosglwyddo data o’r dudalen i’r maes, gan ddangos sut y gall ffermwyr ddefnyddio gwybodaeth llinell sylfaen i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n gwella canlyniadau amgylcheddol ac yn helpu i gyrraedd y nod sero net.

P’un ai ydych chi’n fffermwr sy’n cymryd rhan yn y prosiect llinell sylfaen, yn dalwr lefi sydd am ddeall beth mae’r prosiect yn ei olygu i chi, neu eich bod am wneud dim mwy na dysgu am garbon pridd, allyriadau, coed, gwrychoedd a’r darlun amgylcheddol ehangach, mi fydd yna rywbeth defnyddiol a pherthnasol i chi.

Pam ddylech chi fynychu? 

  • I ddeall canlyniadau cynnar y prosiect
  • Gweld enghreifftiau go iawn ar ffermydd go iawn
  • Gadael gyda syniadau y gallwch eu defnyddio ar eich fferm chi
  • Bod yn rhan o’r ddeialog gyda’r ffermwyr a’r arbenigwyr sydd ynghlwm â’r gwaith
  • Helpu i siapio beth sy’n digwydd nesaf

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu? 

Yn ystod y brif sesiwn ac ar y tri safle maes mi fyddwch chi’n archwilio:

  • Canlyniadau cyntaf y prosiect llinell sylfaen a’r hyn maen nhw’n ei olygu
  • Canlyniadau’r archwiliad carbon:  allyriadau ac alldynnu/atafaelu
  • Canfyddiadau carbon pridd ar draws defnyddiau tir gwahanol ac ar ddyfnderau gwahanol
  • Stociau carbon uwchlaw ac islaw’r ddaear mewn coed a gwrychoedd
  • Beth mae’r canlyniadau’n ei olygu i’r fferm sy’n cynnal y digwyddiad a pha welliannau sydd ar droed
  • Sut y gall data eich helpu i wneud penderfyniadau

Mae’r digwyddiadau’n para am oddeutu pedair awr ac maent yn rhad ac am ddim.

Lleoliadau a dyddiadau cyfarfodydd

Mwy o wybodaeth

Dysgwch fwy am Brosiect Llinell Sylfaen yr Amgylchedd

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

×