Profion rheolaidd yn cadw Clefyd Johne dan reolaeth
Tuesday, 26 May 2020
Mae cynnal profion ar gyfer Clefyd Johne bob chwarter yn helpu Rheinallt Harries, ffermwr llaeth yn Sir Gâr i ganfod buchod sydd wedi’u heintio a rheoli lledaeniad y clefyd.
Mae Rheinallt, sy’n ffermio yn Llwynmendy ger Llandeilo, yn godro buches o 170 o fuchod croes Friesian Seland Newydd a Jersey sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn, yn ogystal â stoc ifanc.
Mae’r fferm yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u perfformiad a’u proffidioldeb drwy ganolbwyntio ar wella dulliau o reoli iechyd y fuches a rheoli clefydau.
Yn dilyn trafodaethau gyda Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Anifeiliaid AHDB, Ceri Davies, a milfeddyg y fferm, penderfynwyd bod cynnal profion unigol ar y fuches gyfan bedair gwaith y flwyddyn ar gyfer Clefyd Johne yn flaenoriaeth i Llwynmendy.
Bydd HerdAdvance yn talu am brofion Clefyd Johne fel rhan o’r prosiect. Ochr yn ochr â hyn bydd Cynllun Rheoli Clefyd Johne blynyddol yn cael ei lunio a’i adolygu gan y milfeddyg.
Dywed Rheinallt: “Mae’r prosiect wedi caniatáu inni fod yn rhagweithiol wrth reoli ein brwydr yn erbyn Clefyd Johne drwy ariannu profion ar y fuches gyfan bob chwarter. Yn sgil hyn, gallwn wneud penderfyniadau gwybodus, sydd wedi helpu i wella effeithlonrwydd y fuches a’r busnes.”
Awgrymodd y milfeddyg y byddai’r broblem yn ymddangos fel petai’n gwaethygu i ddechrau wrth i fwy o fuchod gael eu profi er mwyn pennu eu statws. Canfu’r prawf cyntaf fod tua 10% o’r fuches yn bositif o ran y clefyd. Wrth i’r profion barhau, cynyddodd nifer yr achosion ac erbyn hyn mae oddeutu 12%, ond mae Rheinallt wedi rhoi mesurau rheoli ar waith i leihau hyn yn raddol.
Mae buchod sy’n cael eu nodi fel rhai ambr neu goch yn cael eu marcio â thag clust coch er mwyn gallu eu hadnabod yn hawdd, a chânt eu rheoli ar wahân. Caiff buchod positif eu bridio ar gyfer semen biff a’u lloia ar wahân i weddill y fuches, gyda’r llociau lloia’n cael eu diheintio’n drwyadl rhwng bob lloiad. Ni fwydir unrhyw golostrwm o fuchod sydd wedi profi’n bositif o ran Clefyd Johne i unrhyw loi.
Disgwylir y bydd nifer yr achosion ar y fferm yn gostwng yn ddramatig dros y blynyddoedd sydd i ddod drwy roi’r mesurau rheoli hyn ar waith, ochr yn ochr â phrofion rheolaidd ac adolygiad blynyddol o’r Cynllun Rheoli Clefyd Johne.
Meddai Ceri Davies: “Drwy brofi’r fuches gyfan bob chwarter, mae’r fferm wedi gallu nodi’r buchod sy’n debygol o drosglwyddo’r clefyd i weddill y fuches, a chymryd camau i leihau’r lledaeniad. Heb y profion rheolaidd hyn i nodi buchod positif, mi fyddai’n hynod o anodd rheoli a chael gwared â’r clefyd.”
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect HerdAdvance, ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.
Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.