Samplo llaeth swmp yn help i ganfod clefyd yn gynnar a’i reoli
Wednesday, 18 November 2020
Mae monitro ei fuches drwy samplo llaeth swmp wedi caniatáu i’r ffermwr Roger Howells ganfod clefyd yn gynnar a’i atal rhag lledaenu ymhellach.
Mae teulu Howells yn rheoli eu 154 o fuchod drwy system lloia a chadw dan do trwy’r flwyddyn ar Fferm Blaengelli, Sir Gâr. Mae’r fferm yn rhedeg buches gaeedig o wartheg pedigri Holstein.
Dechreuodd y fferm samplo’r llaeth swmp bob blwyddyn i fonitro lefelau clefydau o fewn y fuches, gyda chyllid gan y prosiect HerdAdvance. Caiff y llaeth ei brofi ar gyfer Rhinotracheitis Buchol Heintus (IBR), gwrthgyrff gE IBR, Leptosbirosis, Llyngyr yr Afu/Iau a Neospora.
Sylwodd teulu Howells fod eu buchod yn dangos arwyddion o salwch ac mi gysyllton nhw â’r milfeddyg, a nododd fod clefyd yn bresennol. Cadarnhaodd y prawf swmp llaeth mai IBR oedd y broblem, sef clefyd anadlol hynod o heintus all ledaenu’n gyflym trwy’r fuches, sy’n aml yn achosi gostyngiad sydyn yn y lefelau llaeth, ac erthyliadau. Gall yr arwyddion clinigol amrywio, o dim mwy na thrwyn yn rhedeg, i beswch ac anhawster anadlu.
Unwaith bod teulu Howells yn gwybod mai IBR oedd y broblem, aethant ati i roi protocol brechu ar waith ar y fferm er mwyn brechu’r buchod godro a’r heffrod yn erbyn y clefyd.
Meddai Roger: “Rydym wedi bod wrthi ers sbel yn samplo llaeth swmp fel rhan o’r prosiect HerdAdvance, i fonitro lefelau clefydau ar y fferm. Ar ôl canfod problem o fewn y fuches, cadarnhaodd y prawf llaeth swmp beth oedd y clefyd, a chymerwyd camau dioed i warchod y fuches.”
Dywed Lauren Arndt, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd Anifeiliaid y fferm: “Mae cynnal profion llaeth swmp yn help i fonitro clefydau yn y fuches, i asesu’r perygl o ledaeniad er mwyn creu cynllun i reoli’r clefyd, a phenderfynu a oes angen brechu ai peidio.
“Mae Cynllunio Iechyd y Fuches, sy’n rhan o’r prosiect HerdAdvance yn caniatáu i ffermwr roi cynlluniau a phrotocolau yn eu lle. Mae adolygiadau rheolaidd yn caniatáu i’r fferm ddiweddaru ei chynllun fel bo angen ac, yn fwyaf pwysig, i siarad â’i milfeddyg i drafod materion sy’n codi. Yna gellir cynllunio ar gyfer yr annisgwyl a sefydlu dulliau monitro, megis samplo llaeth swmp yn rheolaidd, er mwyn nodi unrhyw newid o ran y clefyd o fewn y fuches.”
I gael mwy o wybodaeth am IBR, ynghyd â chlefydau eraill ymhlith buchod llaeth, ewch i’n gwe-dudalen ar https://ahdb.org.uk/diseases-affecting-dairy-cows.
Mae Fferm Blaengelli yn un o 500 o ffermydd a ddewiswyd gan AHDB i gymryd rhan yn ei brosiect HerdAdvance, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth yng Nghymru i wella’u proffidioldeb a’u perfformiad drwy ganolbwyntio ar wella’u dulliau o reoli iechyd y fuches a chlefydau.
Mae HerdAdvance yn rhan o’r Rhaglen Gwella’r Sector Llaeth pum mlynedd, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
I gael gwybod mwy am y prosiect HerdAdvance, ewch i’n gwe-dudalen benodedig ar ahdb.org.uk/herdadvance.
Sectors: