Lean management for dairy with Jana Hocken
Webinar recording
Join the world-renowned New Zealand author of ‘The Lean Dairy farmer’ Jana Hocken and strategic dairy farmer Dylan Harries to explore how to implement Lean management processes on-farm.
Dylan, who operates a spring-block-calving herd at Tyddyn yr Eglwys in Pembrokeshire, always strives to reduce waste in his operation. He is constantly evaluating his farm processes and seeking more efficient ways of operating.
You’ll learn about his work with Jana over the last three months looking for further improvements by trialling new ways of operating and organising work. Discover the simple steps they’ve introduced to manage time and rotas for an optimum work/ life balance for the whole farm team.
Join us to hear to implement Lean management on farms of any scale or system.
In this session you will learn:
- About lean management
- How to draw up task and visualisation boards
- How to use performance trackers and team meetings to inspire success
- Why videoing can help analyse and refine processes
- How to manage time and rotas for a better work/ life balance
- How to ensure lean doesn’t cut corners or compromise safety
This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.
Who should attend?
Anyone interested in learning more about managing the work on their farm in a more efficient way
Booking Details
Address: Webinar
Date: Monday 18th January
Time: 19:30 – 20:45
Book your place online or contact the AHDB KE Events Hub on 01904 771216 or via email at ke.events@ahdb.org.uk.
For more information regarding the event please call Jamie McCoy on 07823 790440
About the Tyddyn yr Eglwys
The herd consists of 550 Friesian x Jerseys with 130 home-reared heifers calved annually. The total land area is around 700 acres, which is mostly grass and includes 395 acres of milking platform.
The farm is owned by Kim and Bryony Petty and operated as a joint venture with Dylan and Hannah Harries acting as contract farmers.
The aim of the business is to generate as much free cash as possible whilst enjoying the job and having time to enjoy off the farm and maintaining a sustainable business.
The business scores well against the AHDB key performance indicators for spring block calving.
Over the next 3 years Dylan and Hannah aim to further reduce their cost of production, maximising the benefits of recent infrastructure investments and continue to strive to ensure all business decisions have a positive impact on the overall profitability of the business.
Follow their story or get the latest updates by searching for #SDFTyddynyrEglwys on Twitter.
About the Speaker
Jana Hocken farms alongside her husband Mat in New Zealand running a multi-site business. Jana has previously worked in engineering at Toyota and has transferred lean management skills from there into agriculture. She authored a book called ‘The Lean Dairy Farm’ and works advising a number of businesses worldwide in a range of industries seeking to eliminate waste, save time and cut costs to create a more productive, profitable and high-quality farm system.
About Strategic Dairy Farms
Strategic dairy farms aim to help farmers learn from each other through regular on-farm meetings where we will share key performance data and showcase what the best farmers are doing.
They form part of the Optimal Dairy Systems programme which aims to help dairy farmers reduce costs and increase efficiency by focusing on either a tight block or all-year-round calving system.
The growing network of strategic dairy farms have calculated KPIs for their enterprises which are shared at meetings and published online. These are physical and financial performance measures that are critical to success. Farmers can benchmark their businesses against these KPIs to help identify areas for improvement.
Follow the programme, explore the learning and find other local SDFs
Gweminar Fferm Larth Strategol
Rheoli cynnil gyda Jana Hocken
Ymunwch ag awdures fyd-enwog ‘The Lean Dairy farmer’ sef Jana Hocken o Seland Newydd, a’r ffermwr llaeth Dylan Harries, i ddysgu sut i gyflwyno dulliau rheoli cynnil ar eich fferm.
Mae Dylan, sy’n rhedeg buches sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn ar fferm Tyddyn yr Eglwys yn Sir Benfro, yn gwneud ei orau glas bob amser i osgoi gwastraff wrth weithredu. Mae wrthi’n gyson yn gwerthuso prosesau ar ei fferm ac yn chwilio am ffyrdd mwy effeithlon o weithredu.
Byddwch yn dysgu mwy am ei waith gyda Jana dros y tri mis diwethaf, yn anelu at wneud gwelliannau pellach drwy dreialu dulliau newydd o weithredu a threfnu gwaith. Cewch wybod am y camau syml maent wedi’u cyflwyno i reoli amser a rotâu, i sicrhau’r cydbwysedd bywyd a gwaith gorau posib i’r tîm fferm cyfan.
Ymunwch â ni i ddysgu sut i roi rheoli Cynnil ar waith ar ffermydd o unrhyw faint neu system.
Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu:
- Am reoli cynnil
- Sut i greu byrddau tasgau a darlunio
- Sut i ddefnyddio dulliau tracio perfformiad a chyfarfodydd tîm i ysgogi llwyddiant
- Sut y gall gwneud fideos helpu i ddadansoddi a mireinio prosesau
- Sut i reoli amser a rotâu i gael gwell cydbwysedd bywyd a gwaith
- Sut i sicrhau nad yw cynnil yn golygu torri corneli neu gyfaddawdu o ran diogelwch
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am reoli’r gwaith ar eu fferm mewn ffordd fwy effeithlon.
Manylion Archebu Lle
Cyfeiriad: Gweminar
Dyddiad: Dydd Llun 18fed Ionawr
Amser: 19:30 – 20:45
I archebu’ch lle AM DDIM cysylltwch â KE Events Hub AHDB ar 01904 771216 neu ke.events@ahdb.org.uk.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ffoniwch Jamie McCoy ar 07823 790440
Am Tyddyn yr Eglwys
Mae’r fuches yn cynnwys 550 o fuchod Friesian Jersey croes gyda 130 o heffrod a fagwyd ar y fferm sy’n lloia’n flynyddol. Mae tir y fferm yn ymestyn dros 700 acer, y rhan fwyaf ohono’n borfa, gan gynnwys 395 acer o blatfform godro.
Mae’r fferm yn berchen i Kim a Bryony Petty ac mae’n cael ei rhedeg fel menter gydweithredol, gyda Dylan a Hannah Harries yn ffermwyr contract.
Nod y busnes yw cynhyrchu gymaint â phosib o arian parod rhydd, gan fwynhau’r gwaith a chael amser hefyd i fwynhau oddi ar y fferm a chynnal busnes cynaliadwy.
Mae’r busnes yn sgorio’n dda yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol AHDB ar gyfer lloia mewn bloc yn y gwanwyn.
Dros y tair blynedd nesaf, nod Dylan a Hannah yw lleihau eu costau cynhyrchu ymhellach, gan wneud y mwyaf o fuddiannau buddsoddiadau diweddar i’r seilwaith, a gwneud eu gorau glas i sicrhau bod yr holl benderfyniadau busnes yn cael effaith bositif ar broffidioldeb cyffredinol y busnes.
Dilynwch eu stori drwy fynd i www.ahdb.org.uk/farm-excellence/TyddynyrEglwys neu gallwch ddarllen yr hanes diweddaraf drwy chwilio am #SDFTyddynyrEglwys ar Twitter.
Am y Siaradwr
Mae Jana Hocken yn ffermio ochr yn ochr â’i gŵr Mat yn Seland Newydd, gan redeg busnes ar safleoedd lluosog. Bu Jana’n gweithio ym maes peirianneg gyda Toyota ar un adeg ac mae wedi trosglwyddo sgiliau rheoli cynnil o’r fan honno i amaethyddiaeth. Mi ysgrifennodd lyfr o’r enw ‘The Lean Dairy Farm’ ac mae’n cynghori nifer o fusnesau ar draws y byd o fewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, gan geisio dileu gwastraff, arbed amser a lleihau costau, i greu system ffermio mwy cynhyrchiol, proffidiol a safonol.
Am Ffermydd Llaeth Strategol
Mae ffermydd llaeth strategol yn helpu ffermwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfarfodydd rheolaidd ar ffermydd, lle rhennir data perfformiad allweddol ac arddangosir beth mae’r ffermwyr gorau yn ei wneud.
Maent yn ffurfio rhan o’r rhaglen ‘Optimal Dairy Systems’, sy’n anelu at helpu ffermwyr llaeth i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd, drwy ganolbwyntio ar un ai system lloia mewn bloc tynn neu system lloia trwy’r flwyddyn.
Mae gan ein rhwydwaith cynyddol o ffermydd llaeth strategol ddangosyddion perfformiad allweddol cyfrifedig ar gyfer eu mentrau, a rennir mewn cyfarfodydd, ac a gyhoeddir ar-lein. Mae’r rhain yn mesur perfformiadau corfforol ac ariannol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo. Gall ffermwyr feincnodi eu busnesau yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hyn i’w helpu i nodi meysydd i’w gwella.
Dilynwch y rhaglen a dod o hyd i Ffermydd Llaeth Strategol eraill yn eich ardal ar www.ahdb.org.uk/farm-excellence/dairy
Topics:
Sectors:
If you have any questions about this event, please contact us using the details below.
T 01904 771216